Neges gan Bwy yn Baton 2016?

Pwy sy’n haeddu’r anrhydedd o ysgrifennu Neges yr Iaith i’w rhoi yn Baton Ras yr Iaith 2016?

Y Prifardd Ceri Wyn Jones ysgrifennodd neges, ar ffurf englyn, yn y Ras gyntaf a orffennodd yn Aberteifi – tref Ceri. Ond pwy hoffech chi weld yn ysgrifennu’r neges eleni?

Does dim angen i’r person fod yn fardd. A does dim rhaid chwaith fod gan y person berthynas gyda Llandeilo lle bydd y Ras yn gorffen ar 8 Gorffennaf.

Baton Ras yr Iaith

Baton Ras yr Iaith

Efallai hoffech awgrymu llenor; person o faes chwaraeon; ymgyrchydd; perfformiwr; gwleidydd … neu fardd. Caiff bwy bynnag sy’n cael ei ddewis neu ei dewis, yr anrhydedd o ysgrifennu neges.

Caiff y neges yma ei rhoi y tu fewn i’r Baton ar gyfer cychwyn y Ras ym Mangor ar fore Mercher 6 Gorffennaf ac yna ei basio o law i law trwy 24 tref arall nes cyrraedd pen y daith yn Llandeilo ar nos Wener 8 Gorffennaf. Bydd y neges yn cael ei darllen am y tro cyntaf mewn seremoni arbennig fydd yn rhan o ffinale y Ras ym Mhlasdy Newton House yn Llandeilo.

Felly, os hoffech chi awgrymu enw cysylltwch â ni. Y dyddiad cau yw 1 Mehefin 2016.

Cysylltwch drwy:
Ebost – post@rasyriaith.cymru
Twitter – www.twitter.com/rasyriaith

Postiwyd yn Newyddion
Twitter
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Falch iawn bod @RasyrIaith wedi gallu rhoi grant i'r ŵyl miwsig Cymraeg newydd yma yn Aberystwyth. Diolch i holl re… twitter.com/i/web/status/1…
Rhiannon L Cosslett @rhiannonlucyc
Unbelievably proud to have this on the front page of my newspaper this morning & on the cover of G2. Positive cover… twitter.com/i/web/status/1…
Ras yr Iaith @RasyrIaith
Ras yr Iaith yn hapus iawn i roi grant i @GwylAber. Diolch i'r holl noddwyr a rhedwyr a wnaeth @RasyrIaith 2018 yn… twitter.com/i/web/status/1…
Mentrau Iaith Brecon Carreg Llaeth y Llan Golwg Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Gwent Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys BT Prifysgol Aberystwyth Tinopolis