Mae crysau-T newydd Ras yr Iaith nawr ar werth – dim ond £5 y crys (pob maint) gyda’r elw yn mynd nôl i’r Ras.
Ond, os ydych yn ddigon hael i noddi km ac yn barod i redeg, yna, gewch chi grys-T am ddim! Gallwch wisgo’r crys lliw melyn cwstard wrth redeg ar hyd lonydd Cymru wrth ddangos eich cefnogaeth i’r iaith Gymraeg.
Mae’r crysau wedi eu noddi gan gwmni bwyd enwog Llaeth y Llan ac mae logo’r cwmni i’w weld yn amlwg ar gefn y crys.
“Mae crysau-T y Ras gyntaf wedi profi’n llwyddiannus iawn – dwi’n dal i’w gweld ar hyd y lle dwy flynedd yn hwyrach!” meddai Rhodri Francis o Fenter Iaith Cered sydd i’w weld yn loncian yn aml ar hyd strydoedd Aberystwyth yn yr hen grys.
Yn ogystal â’r logo trawiadol mae lliw melyn cyfoethog y crys yn gymorth mawr i fodurwyr a siopwyr weld rhedwyr y Ras wrth iddynt redeg ar hyd strydoedd trefi Cymru.
Cael Gafael ar Grys-T
Mae’r crysau mewn meintiau 9-11 oed; 12-13 oed; Bach; Canolig; Mawr; Anferth. Cysylltwch â Siôn Jobbins as post@rasyriaith.cymru os hoffech un. Maent hefyd yn cael eu gwerthu drwy fentrau iaith: Cered Sir Benfro Gorllewin Sir Gâr Dinefwr ac Iwan Hywel ar gyfer y Gogledd yn Mentrau Iaith Cymru yn ganolog.
Sieciau’n daladwy i Rhedadeg Cyf. – y cwmni nid er elw sy’n gweinyddu’r Ras.
A Mwy! Gludyn Ffenest i Noddwyr km
Yn ychwanegol at y crys mae pob noddwr km yn derbyn gludyn am ddim i’w roi yn eu ffenest siop neu ysgol neu gapel i ddangos eu bod yn cefnogi Ras yr Iaith 2016.